Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Cyflwyniad byr ar yr amrywiol gyfarfodydd a rhaglenni.

Dyddiad y cyfarfod

Grwp

Crynodeb o'r cyfarfod

Enw'r ffeil PDF i'w lawrlwytho

20/08/02

GTRh

Cyflwyniad CSDd a chyflwyniad SLR ar ofynion TAN 21 a'r broses o baratoi cynllun.
Cytunwyd Cylch Gorchwyl yn amodol ar newidiadau bychain.
Cytunwyd Strategaeth Ymgynghori yn amodol ar newidiadau bychain.
Pob Awdurdod i gwblhau ffurflenni casglu data ar wastraff.

03/10/02

GTRh

Cyflwyniad ar Adroddiad Asesiad Gwaelodlin Drafft (Cyfnod 1) a gytunwyd gan GTRh yn amodol ar unrhyw sylwadau pellach a wnaed yn uniongyrchol i SLR.
Pob Awdurdod i ddarparu gwybodaeth bellach ar gynhwysedd ac unrhyw gyfyngiadau sy'n gysylltiedig gyda chyfleusterau rheoli gwastraff presennol ac arfaethedig yn eu hardaloedd.
Asesiad o gyllid Cynllun Credyd Treth Tirlenwi ar gyfer ymgymryd â'r ymarfer ymgynghorol.
Pob Awdurdod Gwastraff i gytuno cyfrannu £1000 tuag at yr ymarfer ymgynghorol.

03/10/02

GARh

Enwebu'r Cynghorydd M German (CSDd) fel Cadeirydd GARh.
Cyflwyniad gan C O'Brien (LlCC) ar Wise About Waste - Strategaeth Genedlaethol i Gymru.
Cyflwyniad gan A Phillips (CSDd) ar bolisïau Ewropeaidd, DG ar wastraff a gofynion TAN 21.
Cylch Gorchwyl a Strategaeth Ymgynghori wedi eu cyflwyno a'u cefnogi gan GARh.
Cyflwyniad gan SLR ar fethodoleg y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a'r Asesiad Gwastraff Strategol (Cyfnod 1) a ymgymerwyd.

13/11/02

GTRh

Cytunwyd Adroddiad Asesiad Strategol (Cyfnod 1) gan GTRh yn amodol ar newidiadau bychain.
Diweddariad ar ymarfer ymgynghorol.
Cyflwyniad SLR ar adroddiad asesiad opsiynau (Cyfnod 2).
Ymarfer pwysiadau a ymgymerwyd gan bob aelod o'r GTRh ac SLR i gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau.

18/02/03

GTRh

Trafodwyd Adroddiad Drafft Opsiynau Datblygu (Cam 2a Adroddiad) ac fe gytunodd y Grwp y dylid bwrw ymlaen efo Opsiynau 1 – 6 ar gyfer y Cam nesaf (2b) ar gyfer y gwahanol asesiadau. Ni fyddai Opsiwn 0 yn cael ei asesu ond byddai’n rhaid cyfeirio ato yn Adroddiad Cam 2b fel sylfaen ar gyfer cymhariaeth.
Cafodd yr adroddiad “Consultation Strategy Material” ei ddosbarthu ymhlith aelodau’r Grwp.
Nid oedd y cais am grant y ‘Cynllun Credyd Treth Tirlenwi’ i ariannu’r deunydd ymgynghori wedi bod yn llwyddiannus.
Byddai CSDd yn mynd ati ar ei ben ei hun i gynhyrchu gwefan o fewn y terfynau amser a’r terfynau ariannol.

08/04/03

GTRh

 Trafodwyd yr Adroddiad Asesiad Cynaliadwyaeth (Adroddiad Cam 2b) a chodwyd nifer o faterion. Cytunwyd y dylid newid yr adroddiad i gymryd ystyriaeth o’r materion a godwyd ac i ddosbarthu adroddiad diwygiedig ymhlith aelodau’r Grwp.
Clywodd y Grwp fod y wefan wedi cael ei lansio’n swyddogol.
Yn dilyn gwahoddiad i dendro penderfynwyd mai Design & Print fyddai’n cynhyrchu dogfennau’r Ymgynghoriad, y Cynllun Drafft a Fersiwn Terfynol y Cynllun a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

 

29/04/03

GARh

Clywodd yr Aelodau y newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith a gwblhawyd o safbwynt Cam 1: Adroddiad Asesiad Strategol, Cam 2a : Adroddiad Drafft Opsiynau Datblygu, Cam 2b: Adroddiad Asesiad Cynaliadwyaeth, y deunydd ymgynghori a datblygiad y wefan.

03/06/03

GTRh

Trafodwyd y fersiwn diwygiedig o’r Adroddiad Asesiad Cynaliadwyaeth (Cam 2b) ac fe gytunodd y Grwp ar ei gynnwys, yn amodol ar dderbyn unrhyw sylwadau pellach.
Fe wnaeth y Grwp drafod cynnwys posibl y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol.
Roedd y Grwp yn cytuno â chynnwys yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ac a oedd yn cyflwyno manylion ynghylch yr ymgynghoriad, dosbarthu deunydd yr ymgynghoriad ac anghenion lleiaf posibl yr ymgynghoriad.

 

 

24/06/03

GARh

Trafodwyd yr Adroddiad Asesiad Cynaliadwyaeth (Cam 2b) ac fe gytunodd y Grwp ar ei gynnwys. Hefyd cytunwyd y dylid cario’r 6 Opsiwn ymlaen i’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft ar gyfer yr ymgynghoriad llawn.
Cafwyd trafodaeth hefyd ar gynnwys posibl y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

13/08/03

GARh & GTRh ar y Cyd

Trafodwyd y gwaith o baratoi a dosbarthu'r deunydd ymgynghorol, ynghyd â'r angen am gyhoeddusrwydd a chefnogaeth y cyhoedd. Cytunwyd bod ymgynghori ar y Cynllun Drafft yn dechrau yn gynnar ym mis Medi. Rhoddodd pob ALl/mudiad eu hymateb i'r Cynllun Drafft. Cytunodd y GTRh a'r GARh y Cynllun Drafft.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

 

24/01/05

GTRh

Cyflwynwyd cyfnod Arolwg y Cynllun, gan fod materion i'w trin. Trafodwyd aelodaeth y grwp a'r Amodau Cyfeirio, ynghyd â chynnydd ar y CDU, Cynlluniau Gwastraff Dinesig a chyfleusterau ym mhob ALl. Trafodwyd hefyd materion gwastraff peryglus a chyfleusterau tirlenwi.

 

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

11/04/05

GTRh

Cyflwynwyd y wybodaeth a oedd ar gael ar le mewn safleoedd tirlenwi i'r GTRh a'i thrafod. Dosbarthwyd yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer sylwadau. Trafodwyd materion mewn perthynas â thrin gwastraff peryglus.

 

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

11/04/05

GARh

Etholwyd Cadeirydd. Cafwyd cyflwyniadau gan Gyngor Sir Ddinbych, LlCC a Hyder Consulting. Cytunwyd yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Trafodwyd y posibilrwydd o gael 'digwyddiad' gwastraff Gogledd Cymru.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

07/06/05

GARh

Adroddwyd ar faterion yn ymwneud â'r lle i dirlenwi yn y rhanbarth. Trafodwyd addasrwydd lleoli cyfleusterau gwastraff ar dir cyflogaeth a ddyrannwyd. Cyflwynwyd Atodiad Gwastraff Peryglus Drafft ar gyfer ymgynghoriad. Rhoddwyd adroddiad ar gyfarfodydd y Cydlynwyr Rhanbarthol gyda Carwyn Jones AC, i drafod materion ariannu.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

07/06/05

GTRh

Rhoddwyd diweddariad ar y lle a oedd ar gael i dirlenwi yn y rhanbarth. Dosbarthwyd yr Atodiad Gwastraff Peryglus ar gyfer sylwadau. Darparodd pob Awdurdod Lleol ddiweddariad ar y cyfleusterau arfaethedig/caffaeliad. Cyflwynwyd adroddiad ar gyfarfod y tri Chydlynydd Rhanbarthol gyda Carwyn Jones AC ar fater ariannu cyfleusterau.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

06/09/05

GTRh

Trafodwyd argaeledd tir cyflogaeth/diwydiannol ym mhob Awdurdod Lleol, ynghyd â materion marchnata. Dosbarthwyd yr Atodiad Gwastraff Peryglus drafft cyn ymgynghori arno. Trafodwyd project LlCC i fapio ardaloedd chwilio am gyfleusterau gwastraff. Rhoddodd pob Awdurdod Lleol adroddiad ar gynnydd gyda chyfleusterau gwastraff a Chynlluniau Datblygu.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

 

07/09/05
GARh
Trafodwyd argaeledd tir cyflogaeth/diwydiannol. Penderfynwyd ar y cyfnod ymgynghorol ar gyfer yr Atodiad Gwastraff Peryglus. Trafodwyd ymarfer LlCC ar fapio ardaloedd chwilio am gyfleusterau gwastraff.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

07/11/05
GTRh
Trafododd y Grŵp argaeledd tir cyflogaeth ar gyfer defnydd rheoli gwastraff. Rhoddwyd arddangosfa o'r ymarfer mapio ardaloedd GIS. Cyflwynwyd opsiynau rheoli gwastraff i'w hasesu.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

10/11/05
GARh
Trafododd y Grŵp argaeledd tir cyflogaeth ar gyfer defnydd rheoli gwastraff. Rhoddwyd arddangosfa o'r ymarfer mapio ardaloedd GIS. Codwyd mater integreiddio gyda Chynllun Gofodol Cymru. Cyflwynwyd opsiynau rheoli gwastraff i'w hasesu.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

16/01/06
GTRh
Trafodwyd argaeledd tir cyflogaeth. Codwyd materion yn ymwneud ag ymatebion i'r Atodiad Gwastraff Peryglus drafft. Cyflwynwyd cynnwys ac agwedd arfaethedig i'r Cynllun Arolwg. 

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

19/01/06
GARh
Trafodwyd argaeledd tir cyflogaeth. Codwyd materion yn ymwneud ag ymatebion i'r Atodiad Gwastraff Peryglus drafft. Cyflwynwyd cynnwys ac agwedd arfaethedig i'r Cynllun Arolwg. 

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

30/03/06

GTRh & GARh

Cyflwynodd Asiantaeth yr Amgylchedd y broses Gwerthuso Cynaladwyedd i'r Grŵp. Trafodwyd argaeledd tir cyflogaeth. Cytunwyd rhagamcaniadau deilliannau gwastraff a chyflwynwyd Adroddiad Monitro Blynyddol drafft 2006.

Agenda (pdf)

Cofnodion (pdf)

10/04/2006

GTRh & GARh
Cytunodd y Grŵp ddefnyddio agwedd gyfartal AU ar gyfer y rhanbarth mewn perthynas â'r Arfarniad o Gynaladwyedd a dadansoddiad cylch bywyd yr opsiynau rheoli gwastraff strategol
14/09/2006
GTRh & GARh
Cyflwyniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn tanlinellu materion a wynebir gan y rhanbarth o safbwynt gwastraff.
29/01/2007
GTRh & GARh
Cafwyd nifer o gyflwyniadau i'r grŵp gan gynnwys project Ardaloedd Chwilio gan RPS, 'Menter Gyflym' Ymddiriedolaeth yr Amgylchedd, Cymru, Arolwg Strategaeth Gwastraff LlCC. Cafwyd trafodaeth gyda DEIN ar yr arolwg o'u strategaeth eiddo.
03/04/2007
GTRh & GARh
Rhoddodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gyflwyniad ar yr Arfarniad o Gynaladwyedd a'r Dadansoddiad Cylch Bywyd o'r opsiynau rheoli gwastraff strategol. Hefyd, trafododd y grŵp yr AMR a chytuno gohirio ei gyhoeddiad nes gallai AAC ddarparu data pellach.

19/07/2007

GAh & GTRh

Rhoddodd RPS gyflwyniad i'r grŵp ar gyfer y project 'Ardaloedd Chwilio'. Cytunodd y grŵp y dylid cyhoeddi'r adroddiad a'r mapiau ar gyfer ymgynghoriad.
Rhoddodd Peter Brett Associates gyflwyniad i'r grŵp ar gyfer yr 'Asesiad Effaith Iechyd'.

Rhoddodd swyddog CSDd gyflwyniad ar gyllid Cydgyfeiriant - olynydd cyllid Amcan Un.

Agenda (pdf)

Llwytho Cofnodion i lawr (pdf)

29/08/2007

GTRh

Trafododd y grŵp ddogfen ddrafft Arolwg 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cytunwyd y dylid cyfieithu'r crynodeb anhechnegol ac y dylid rhannu'r brif ddogfen yn ddau gyda'r prif destun mewn 'Dogfen Graidd' a'r tablau a'r wybodaeth dechnegol mewn 'Cydymaith Technegol'.

Agenda (pdf)

Llwytho Cofnodion i lawr (pdf)

24/09/2007

GARh & GTRh

Cytunodd y grŵp ar y dogfennau i fynd allan i ymgynghoriad.

Agenda (pdf)

Llwytho Cofnodion i lawr (pdf)