Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Bydd Grwp Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru'n cyhoeddi CGRh diwygiedig ym mis Mawrth 2007. Yn ganolog i'r broses hon bydd casglu a dadansoddi gwybodaeth / data yn ymwneud â'r sefyllfa wastraff o fewn y rhanbarth a gweithredu'r CGRh.

Mae gofyn i bob un o'r tri rhanbarth yng Nghymru baratoi a chyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol ym mhob blwyddyn o'r contract. Mae gwybodaeth ar y sefyllfa wastraff yn y rhanbarth yn ofynnol er mwyn monitro swm y gwastraff sy'n codi, adfer a gwaredu gwastraff y rhanbarth. Rhaid cyflawni'r her o gynllunio ar gyfer rheoli gwastraff a chyfleusterau adfer adnoddau gyda sail wybodaeth gadarn. Felly, mae'n bwysig cael gwybodaeth gynhwysfawr, gywir, amserol a chyson. Gellir crynhoi cynnwys yr Adroddiadau Monitro Blynyddol fel hyn:

  • datganiad o amcanion a chwmpas yr adroddiad, yr egwyddorion arweiniol a'r ffactorau sy'n gyrru newid;
  • asesiad o:
    • sefyllfa gyfredol swm y gwastraff sy'n codi (graddfeydd cyfaint, cyfansoddiad, ailgylchu a thyfiant);
    • lleoliad a gallu cyfleusterau rheoli gwastraff presennol ac arfaethedig gan gynnwys nodi unrhyw fylchau data ac awgrymiadau i wella casglu data, gyda data penodol ar ffrydiau gwastraff sy'n flaenoriaeth gan gynnwys gwastraff peryglus, WEEE, teiars a gwastraff amaethyddol;
  • asesiad o'r goblygiadau ar gyfer adolygiad o ddatblygu'r dewis o opsiynau ar gyfer rheoli gwastraff yn y dyfodol yn y rhanbarth a'r ymgynghori a gyflawnwyd o ran yr opsiynau hyn yn arwain at argymell yr opsiwn ddewisedig;
  • asesiad o'r goblygiadau defnydd tir ar gyfer blaengynllunio pob awdurdod fel bod modd addasu'r dyraniad arfaethedig ar gyfer gallu rheoli gwastraff y dyfodol ar gyfer pob math o wastraff i bob awdurdod cynllunio lleol; a
  • datganiad ar ddatblygu polisïau cynllunio defnydd tir mewn cynlluniau datblygu sy'n cael eu paratoi yn y rhanbarth i weithredu a chwrdd â gofynion y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol i ddarparu'n ddigonol ar gyfer yr isadeiledd angenrheidiol i weithredu targedau Strategaeth Wastraff Cymru.

Os hoffech lawrlwytho'r ffeil canlynol, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i'w lawrlwytho am ddim.

Annual Monitoring Report ( April 2005)

Annual Monitoring report (April 2006)

Annual Monitoring report (April 2007)