Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Ymgynghori

Rydym yn croesawu eich sylwadau trwy gydol y flwyddyn - i leisio barn cliciwch ar y ffurflen adborth isod.

Ffurflen Adborth

Trwy gydol y broses o baratoi'r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a'r Adolygiad 1af, yr amcan fu cael y sbectrwm barn ehangaf posibl. Cafwyd ymgynghoriad i ganfod barn y cyhoedd, cyrff cyhoeddus a mudiadau, busnes a diwydiant, cyrff gwrfoddol, grwpiau amgylcheddol, grwpiau eraill â diddordeb a'r diwydiant rheoli gwastraff.

Hyd yma, cafwyd tri ymgynghoriad cyhoeddus:

  • Ymgynghoriad ar Adolygiad1af Cynllun Gwastraff Rhanabrthol Gogledd Cymru: 15fed Hydref 2006 - 29ain Chwefror 2008

  • Ymgynghoriad ar yr Atodiad Gwastraff Peryglus: 14eg Hydref 2005 - 25ain Tachwedd 2005

  • Ymgynghoriad ar Gynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru: 3ydd Hydref 2003 - 12fed Tachwedd 2003

Ymgynghoriad ar Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru

Ymgymerwyd ag ymgynghoriad ar Gynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru rhwng 15fed Hydref a'r 29ain Chwefror.

 Roedd y dogfennau  canlynol yn destun ymgynghoriad:

  • Dogfen Graidd Arolwg 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft Ymgynghorol
  • Dogfen Dechnegol Ategol Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft Ymgynghorol
  • Asesiad Cylch Bywyd ac Asesiad o Gynaliadwyedd yr Opsiynau rheoli gwastraff strategol amgen
  • Adroddiad Amgylcheddol ar yr Opsiynau rheoli gwastraff strategol amgen
  •  Asesiad Effaith Iechyd Opsiynau rheoli gwastraff strategol amgen
  • Adroddiad Asesiad o Gynaliadwyedd / Adroddiad Amgylchedd cynhyrchu ac asesu mapiau Ardaloedd Chwilio

Roedd gweithgareddau ymgynghorol yn cynnwys:

  • Gwefan gydag arolwg ar-lein (bellach wedi cau)
  • Datganiadau i'r Wasg
  • Cyfarfod rhanddeiliaid strategol
  • Diwrnod diwydiant
  • Cyfres o 3 cyfarfod grŵp focws cyhoeddus
  • Cyfarfodydd grwpiau cymunedol ym mhob Awdurdod Unedol
  • Arolwg ar hap trwy'r post

Cyhoeddwyd Adroddiad Ymgynghorol gan Hyder Consulting (UK) Ltd a hwylusodd yr ymgynghoriad. Mae'r adroddiad yn manylu'r gweithgareddau a ymgymerwyd yn ystod yr ymgynghoriad a'r ymatebion a dderbyniwyd. I ddarllen yr adroddiad, cliciwch ar y cyswllt isod:

Adroddiad Ymgynghorol Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru

Er mwyn medru ymateb i sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, cyhoeddwyd Adroddiad Atodiad Ymgynghorol gan y Grŵp Gwastraff Rhanbarthol. Mae'r adroddiad yn manylu'r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac yn ymateb iddynt. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond sylwadau a gynhwyswyd yn yr Adroddiad Ymgynghorol uchod, neu rai a anfonwyd yn uniongrychol at yr Adurdod Cydlynu, sydd wedi eu cynnwys. I weld yr adroddiad, cliciwch ar y cyswllt isod:

Adroddiad Atodiad Ymgynghorol Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae adolygiad wedi ei ymgymryd mewn perthynas â chynllunio ar gyfer gwastraff peryglus. Y gofyniad fu i baratoi a chyhoeddi meini prawf lleoliad neu bolisïau fel atodiad i’r CGRh a fydd yn tywys cynigion i’r dyfodol ar gyfer cyfleusterau trin gwastraff peryglus a  chyfleusterau gwaredu. Paratowyd Adroddiad Drafft ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, a gychwynnodd ar ddydd Gwener 14 Hydref 2005 ac a ddaeth i ben ar ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Cynhwysir canlyniadau’r ymgynghoriad yn y ddau adroddiad isod ac os ydych eisiau llwytho i lawr yr Adroddiad Terfynol ar Wastraff Peryglus, gellir gwneud hyn trwy’r cyswllt Arolwg ar y chwith i’r dudalen.

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad (Rhagfyr 2005)

Ymgynghori ar y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol

Cynyddu Ymwybyddiaeth

Cynhyrchwyd taflenni a phosteri cyhoeddusrwydd a’u dosbarthu yn y Rhanbarth ym mis Gorffennaf 2003 i gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â materion gwastraff yn gyffredinol ac yn nodi’r ffaith bod y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol yn cael ei baratoi ar gyfer Gogledd Cymru.

Ymarfer Ymgynghorol Llawn

Roedd y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol drafft yn destun ymgynghoriad llawn am gyfnod o chwe wythnos o 1 Hydref 2003 i Dachwedd 2003.

Mae manylion y broses ymgynghorol a’r sylwadau a dderbyniwyd ar gael yn y Datganiad Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghoriad, a ellir ei weld trwy glicio isod.

Datganiad Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghoriad (pdf 96 KB)

Cyhoeddusrwydd a Deunydd Cyhoeddusrwydd

Y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol

Gellir gweld y Cynllun Gwastraff a’i lwytho i lawr o’r dudalen “Cynllun Gwastraff Rhanbarthol” ar y wefan hon, a gellir ei weld hefyd yn Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol.

Gellir prynu’r Cynllun Gwastraff (cyn belled â bod copïau ar gael) am £10 o Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol, a fydd yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych.

Mae’r Cynllun Gwastraff hefyd ar gael ar CD a gellir ei brynu am £10 y copi gan Gyngor Sir Ddinbych.

Cyflwyno eich sylwadau

Medrwch gysylltu â swyddogion Cyngor Sir Ddinbych trwy gydol y flwyddyn:
 E-bost: cynllungwastraff@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 708057

Medrwch ysgrifennu atom : Tîm Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth, Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Canol y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1QA