
Mae gwastraff yn fater sy'n effeithio pawb - dyna pam rydym eisiau i CHI chwarae rhan!
Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a fabwysiadwyd yn darparu fframwaith cynllunio defnydd tir ar gyfer y rhanbarth a bydd yn bwydo gwybodaeth i Gynlluniau Datblygu Lleol. Os oes gennych sylwadau ar faterion gweithredol penodol megis casgliadau, cysylltwch â'ch cyngor lleol trwy'r dudalen 'cysylltau defnyddiol' neu cliciwch yma i fynd i wefan eich cyngor lleol.
Medrwch wneud gwahaniaeth, os ydych yn rhywun sy'n byw yn Rhanbarth y Gogledd, yn fusnes, aelod o'r diwydiant gwastraff, aelod o grŵp amgylcheddol neu, yn wir, yn unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwastraff. Eich sylwadau a'ch barn chi sy'n helpu llunio'r broses gynllunio ar wastraff rhanbarthol.
Medrwch chwarae rhan trwy gydol y flwyddyn trwy gysylltu â'r awdurdod cydlynu yn cynllungwastraff@sirddinbych.gov.uk
Mae'r rhestr opsiynau ar yr ochr chwith i’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar y Cynllun Gwastraff ar gyfer y Rhanbarth. Fe'ch cynghorir i ddarllen y wybodaeth yn "Cynnwys" a "Chyflwyniad" yn gyntaf a bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r hyn rydym yn ei wneud a beth mae'r blychau gwybodaeth eraill yn eu golygu.
Mabwysiadwyd Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ym Mawrth 2004 ac mae'n darparu fframwaith cynllunio defnydd tir ar gyfer y rhanbarth am y 10 mlynedd nesaf.
Mae Arolwg Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ar y gweill ar hyn o bryd. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 15fed Hydref a'r 29ain Chwefror 2008. Os hoffech ddarllen mwy am yr ymgynghoriad cliciwch ar ‘ymgynghori’ ar ochr chwith y dudalen.
Diolch am eich diddordeb.
Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Ddinbych (awdurdod cydlynu ar gyfer cynhyrchu Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru).
|