Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Mae'r wefan hon yn ymwneud yn benodol â phroses Cynllunio Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru. Am fanylion rhanbarth y De-ddwyrain neu'r rhanbarth De-orllewinol ewch i 'Cartref – Cymru' os gwelwch yn dda.

Beth rydym yn ei wneud?

Yn 2004 mabwysiadwyd Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen hon yn rhoi fframwaith cynllunio defnydd tir ar gyfer y rhanbarth ar gyfer gwastraff, ond nid yw gwastraff yn ddiwydiant sy'n aros yn llonydd ac mae angen arolygu'r Cynllun i adlewyrchu anghenion newidiol y rhanbarth. Rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu Arolwg Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Pam rydym yn gwneud hyn?

  • Mae safleoedd tirlenwi yn yr ardal yn llenwi
  • Mae safleoedd tirlenwi yn anghynaladwy
  • Mae deddfwriaeth Ewropeaidd a chenedlaethol yn golygu bod angen i ni newid sut rydym yn trin ein gwastraff – neu wynebu dirwyon anferth
  • Rydym yn gwastraffu adnoddau posibl!

Mae polisi a chanllawiau cenedlaethol yn defnyddio hierarchaeth gwastraff, lle mae'r prif bwyslais ar hybu lleihau, ail-ddefnyddio ac adennill gwastraff a symud i ffwrdd oddi wrth waredu gwastraff trwy dirlenwi.

Mae egwyddorion agosrwydd a hunangynhalioldeb hefyd yn amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n pennu y dylid trin neu waredu gwastraff mor agos ag y bo modd at y ffynhonnell ag y bo modd.

Beth yw'r Polisi?

Mae gwastraff wedi dod yn fater o bwysigrwydd mawr ac mae'r amcanion a'r targedau penodol a bennir mewn Cyfarwyddiadau Ewropeaidd megis Cyfarwyddyd Fframwaith ar Wastraff a'r Cyfarwyddyd Tirlenwi yn gofyn am newidiadau radical yn y dulliau o reoli gwastraff.

I gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen yng Nghymru i gydymffurfio gydag amcanion a thargedau Deddfwriaeth Ewrop, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu  Yn Gall gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru  a Pholisi Cynllunio Cymru Nodyn Cyngor Technegol: 21 Gwastraff (TAN21). Mae Yn Gall gyda Gwastraff yn nodi targedau penodol ar gyfer Cymru ar ddulliau rheoli gwastraff ac mae TAN21 yn rhoi cyngor ar sut y dylai system cynllunio defnydd tir gyfrannu tuag at reoli adnoddau'n gynaliadwy.

Pwy yw'r Grŵp Gwastraff Rhanbarthol?

Cyflwynodd TAN21 yr angen am gydgysylltiad rhanbarthol a arweiniodd at lunio'r tri Grŵp Gwastraff Rhanbarthol. Cyngor Sir Ddinbych yw'r Awdurdod Cydlynu, gan reoli a gweinyddu cynhyrchu Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a'r Arolwg Cyntaf. Fe'u cefnogir gan 2 grŵp penodol:

Sut medraf roddi adborth?

Mae ffurflen adborth ar gael os cliciwch ar Ymgynghori. Rydym yn croesawu sylwadau cyffredinol mewn perthynas â chynnwys y wefan hon ynghyd ag unrhyw sylwadau penodol ar y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a'r Arolwg.

Os ydych angen gwybodaeth bellach ar Gynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a'r Arolwg, medrwch gysylltu â'r canlynol, yng Nghyngor Sir Ddinbych, yr awdurdod cydlynu:

Jonathan Cawley -  Cydlynydd Dros Dro Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru
Martha Savage – Swyddog Technegol Gwastraff
Samantha Davies – Swyddog Gweinyddol

Gellir cysylltu â hwy i gyd ar cynllungwastraff@sirddinbych.gov.uk