Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Mabwysiadwyd Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ym Mawrth 2004. Mae'r Cynllun yn amcanu at ddarparu fframwaith cynllunio defnydd tir cynaliadwy a helpu hwyluso rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff modern ar gyfer y rhanbarth.

Penderfynu sut y dylai'r Rhanbarth gynllunio ar gyfer rheoli'r gwastraff a gynhyrchir yn y dyfodol yw'r prif fater mewn perthynas â llunio'r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol. Er mwyn bwydo gwybodaeth i'r Cynllun, ymgymerwyd â nifer o astudiaethau technegol, a fanylir isod.

Fel rhan o'r broses o asesu sut dylai'r Rhanbarth reoli ei wastraff yn y dyfodol, cynhyrchwyd Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft a oedd yn destun ymgynghoriad  cyhoeddus llawn. Mae manylion pellach i'w cael trwy glicio ar y cyswllt ymgynghori ar y chwith.

Mae'r Cynllun Gwastraff yn cynnwys gwybodaeth ar faterion gwastraff yn gyffredinol ac o fewn cyd-destun rhanbarthol. Mae'n esbonio ac asesu 6 opsiwn posibl a'r opsiwn hybrid ar gyfer delio gyda'r gwastraff a gynhyrchir yn y Rhanbarth. Hefyd, mae datganiadau canllaw arferion gorau yn ymwneud â rheoli gwastraff o fewn cyd-destun cynllunio defnydd tir.

Cliciwch ar ein tudalen “Ymgynghori” am fanylion o sut i ddarparu sylwadau ar y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol.

Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a Gytunwyd (pdf 938KB)

Adroddiad Asesiad Strategol (Asesiad gwaelodlin) (Cyfnod 1)

Ymgymerwyd ag Asesiad Strategol (asesiad gwaelodlin) o Ranbarth Gogledd Cymru, gan grynhoi ystadegau allweddol rheoli gwastraff yn y rhanbarth a lle, bosibl, eu dadansoddi yn ôl lefel Awdurdod Unedol. Mae hyn hefyd yn gweithredu fel meincnod ar gyfer unrhyw astudiaethau yn y dyfodol.

Crynhoir data ar gyfer gwastraff masnachol, diwydiannol, arbennig, adeiladu a dymchwel a deilliannau gwastraff dinesig. Mae trefniadau rheoli gwastraff presennol a rhai a gynllunnir, gan gynnwys nifer a mathau cyfleusterau trin gwastraff, hefyd yn cael eu nodi. Mae amcanestyniadau deilliannau gwastraff i'r flwyddyn 2021 hefyd yn cael eu gwneud ar gyfer pob prif ffrwd gwastraff. Cyflwynwyd yr adroddiad asesiad strategol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2002.

Os ydych eisiau llwytho i lawr unrhyw rai o'r ffeiliau canlynol, byddwch angen Acrobat Reader. Cliciwch ar y ddelwedd Acrobat Reader i lwytho'r rhaglen i lawr am ddim. (Cysylltwch â ni os ydych yn cael problem gyda llwytho'r adroddiadau i lawr).

Opsiynau Technoleg Rheoli Gwastraff (Cyfnod 2)

Mewn dewis eang o dechnolegau rheoli gwastraff ar gael yn y DG heddiw. Mae hyn yn deillio o'r angen brys i wyro gwastraff o safleoedd  tirlenwi a'r pwysau i ddatblygu dulliau amgen o ddelio gyda'r gwastraff hwn. Gydag ystod mor eang o dechnolegau a phryder cynyddol ynglŷn ag iechyd a'r amgylchedd, y cwestiwn ar ddiwedd y dydd yw pa un yw'r dechnoleg fwyaf cynaliadwy. Mae'r adroddiadau hyn yn ceisio adnabod pa gymysgedd o dechnolegau yw'r mwyaf addas mewn perthynas â Gogledd Cymru ac yna’n darparu cyfeiriad strategol o ran y cyfuniad mwyaf priodol o dechnolegau ar gyfer y rhanbarth cyfan. 

Adroddiad Datblygu Opsiynau Drafft (Cyfnod 2a)

Mae'r adroddiad hwn yn adnabod 6 chyfuniad gwahanol (opsiynau) o'r amrywiol fathau o gyfleusterau gwastraff a gafodd yna eu hasesu yn adroddiad Cyfnod 2b, i ddelio gyda'r gwastraff y rhagwelir y caiff ei gynhyrychu yn y Rhanbarth yn 2013 (y flwyddyn asesu)

Cyfeirir at Opsiwn sylfaenol o'r enw Opsiwn 0 yn yr adroddiad hwn i adlewyrchu'r sefyllfa pe na fyddem yn newid ein dulliau o reoli ein gwastraff.

Crynodeb Gweithredol a Geirfa Dermau (pdf)
Cynnwys a Thudalen Flaen (pdf)
Prif Destun (pdf)
Holl Dablau (pdf)
Holl Atodiadau (pdf)
Adroddiad Llawn (pdf)

Adroddiad Asesiad Cynaliadwyedd (Cyfnod 2b)

Mae'r adroddiad hwn yn asesu'r 6 chyfuniad gwahanol (Opsiynau) o'r amrywiol fathau o gyfleusterau rheoli gwastraff a nodwyd yn adroddiad Cyfnod 2a gan ddefnyddio technegau a oedd yn cynnwys Asesiad Opsiynau Amgyclhedd Ymarferol Gorau (BPEO), Asesiad Opsiynau Rheoli Gwastraff Cynaliadwy (SWMO) ac Asesiad Cylch Bywyd (LCA). (Mae manylion llawn yr LCA ar gael trwy glicio ar yr adroddiadau a restrir islaw “Asesiad Wisard”).

Datblygwyd seithfed opsiwn –yr opsiwn Hybrid – a'i nodi fel y senario a ffefrir. Mae'r opsiwn hwn yn cyfuno dau o'r chwe opsiwn gwreiddiol. Mae manylion yr asesiad BPEO ar gyfer yr opsiwn hybrid ar gael trwy glicio ar y cyswllt isod.