
Mae Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ar y gweill ar hyn o bryd. Cytunwyd yr Adolygiad gan Grŵp Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ac mae wedi ei gyflwyno i bob Awdurdod Cynllunio Lleol i'w ystyried a'i gymeradwyo.
Os hoffech weld Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru Drafft a argymhellir, cliciwch ar y cyswllt isod.
Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Drafft a Argymhellir
Unwaith y caiff ei gyhoeddi, bydd yr Adolygiad yn disodli Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ac yn dod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio.
Ymgymerwyd ag ymgynghoriad cyhoeddus ar Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru rhwng 15fed Hydref 2007 a 29ain Chwefror 2008. Am fanylion pellach ar yr ymgynghoriad, cliciwch ar y cyswllt isod:
Ymgynghoriad
Fel rhan o’r Arolwg, cyhoeddwyd Atodiad Gwastraff Peryglus yn 2005. Os ydych eisiau gwybodaeth bellach neu weld yr adroddiad ar wastraff peryglus, cliciwch ar y cyswllt isod:
Adroddiad ar Wastraff Peryglus
Bydd yr arolwg o’r Cynllun Gwastraff yn:
- Ymgorffori casgliadau ac argymhellion yr Adroddiadau Monitro Blynyddol;
- Arolygu ar unwaith y sefyllfa mewn perthynas â chynllunio gwastraff peryglus
- Arolygu a diweddaru’r amcanestyniadau a ddefnyddir yn y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol;
- Nodi manylion yr arolwg o’r opsiwn a ffefrir a dyrannu lle rheoli gwastraff i bob awdurdod lleol yn y rhanbarth
- trosi gofynion lle yn dir sydd ei angen ar gyfer ardal pob awdurdod lleol;
- Ymgorffori asesiad o effeithiau amgylcheddol, cynaliadwyedd ac iechyd yr opsiynau ar gyfer rheoli gwastraff yn y rhanbarth yn y dyfodol (gan gynnwys Asesiad Cylch Bywyd, Arfarniad o Gynaliadwyedd, Asesiad Effaith Iechyd ac asesiad Amgylcheddol Strategol;
- Esbonio cyfiawnhad y penderfyniadau a gymerwyd mewn perthynas â’r arolwg o’r opsiwn a ffefrir gan gynnwys y trefniadau ymgynghori a ymgymerwyd, a’r ymatebion a dderbyniwyd, a
- Chadarnhau cymeradwyaeth yr opsiwn a ffefrir gan y Grŵp Gwastraff Rhanbarthol
I gefnogi a bwydo gwybodaeth i’r Arolwg, mae nifer o brojectau wedi eu hymgymryd:
- Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Cylch Bywyd o’r Opsiynau Rheoli Gwastraff Strategol
- Asesiad Strategol Amgylcheddol o’r Opsiynau Rheoli Gwastraff Strategol
- Project Ardaloedd Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Gwastraff Rhanbarthol ledled Cymru
- Asesiad Effaith Iechyd o’r 3 Arolwg 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol
Er mwyn osgoi dyblygu, mae’r astudiaethau hyn wedi eu hymgymryd ar lefel genedlaethol ar gyfer y 3 Grŵp Gwastraff Rhanbarthol. |