Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
Hone North Wales
Introduction
Map of Region
Contact
Regional Members Group
Regional Technical Group
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan 2004
Regional Waste Plan First Review
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government

Elfen bwysig gyntaf yr arolwg fu ymgymryd ag arolwg mewn perthynas â chynllunio gwastraff peryglus mewn ymgynghoriad â Grwpiau Gwastraff Rhanbarthol eraill, er mwyn paratoi a chyhoeddi meini prawf lleoliadol neu bolisïau fel atodiad i'r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a fydd yn arwain cynigion yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau trin a gwaredu gwastraff peryglus.

Mae'r Adroddiad ar Wastraff Peryglus (Rhagfyr 2005) wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a chyda rhanddeiliaid allweddol ac fe'i cytunwyd gan y Grŵp Aelodau Rhanbarthol. Mae'r adroddiad nawr wedi ei gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Mae'r Adroddiad ei hun yn delio ag anghenion pedwar grŵp o bobl: Comisiwn Ewropeaidd – o ran cyflawni ymrwymiad y DG dan y Cyfarwyddyd Fframwaith Gwastraff a'r Cyfarwyddyd Gwastraff Perylus i sicrhau bod rhwydwaith digonol ac integredig o gyfleusterau gwastraff trwy sefydlu meini prawf lleoliadol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff
  • Datblygwyr o'r diwydiant rheoli gwastraff – o ran darparu cyfarfwyddyd clir ar bolisïau a threfniadau'r system ar gyfer sicrhau caniatâd cynllunio;
  • Aelodau a Swyddogion Awdurdod Lleol – o ran darparu asesiad cywir a chlir ar y materion cynllunio sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o gyfleusterau a fedr drin deunyddiau a ystyrir y wastraff peryglus; a'r
  • Gymuned Leol – o ran rhoi lefel o hyder mewn perthynas â sut a lle y bydd gwastraff peryglus yn cael ei drin.

Mae'r Adroddiad yn gyntaf yn trafod y cyd-destun ehangach trwy arolygu newidiadau deddfwriaethol sydd wedi bod yn ddiweddar a thrwy gyflwyno a dadansoddi data presennol ar ddeilliannau gwastraff peryglus a chyfleusterau gwastraff peryglus. Yna mae'r Adroddiad yn delio ag anghenion y pedwar grŵp trwy:

  • Archwilio ystyriaethau cynllunio defnydd tir ar gyfer yr ystod o gyfleusterau a fedr drin deunyddiau a ystyrir fel gwastraff peryglus;
  • Archwilio rheolaethau presennol y system cynllunio defnydd tir a'u goblygiadau a thrwy
  • Drafod pob math o gyfleuster gwastraff peryglus yn ei dro, unrhyw newid mewn amgylchiadau ers cyhoeddi'r CGRh ac adnabod y meini prawf lleoliadol priodol ar gyfer pob math o gyfleuster.

Mae adran derfynol yr Adroddiad yn nodi meini prawf lleoliadol generig i holl fathau o gyfleusterau gwastraff.

Os ydych eisiau llwytho'r ffeil ganlynol i lawr bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar y ddelwedd Acrobat Reader i'w llwytho i lawr am ddim.

http://www.wales.stickywebdesign.co.uk/graphics/north_graphics/getacro.gif

Adroddiad ar Wastraff Peryglus