Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
South Wales Home
Introduction
Map of Region
Contact
Terms of Reference
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan - November 2003
Regional Waste Plan - November 2003
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government


Craidd y broses o baratoi adolygiad y CGRh yw casglu a dadansoddi gwybodaeth ynglŷn â sefyllfa wastraff y rhanbarth a gweithredu’r CGRh. Caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mhob Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB). 

Gofynnir am wybodaeth am sefyllfa wastraff y rhanbarth er mwyn monitro deilliannau, adfer a dileu gwastraff y rhanbarth ac ar gyfer rhagfynegi deilliannau yn y dyfodol. Mae’n rhaid ymgymryd â’r her o gynllunio ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ac adfer adnoddau ar sail wybodaeth gadarn; felly mae’n bwysig sicrhau gwybodaeth gynhwysfawr, fanwl gywir, amserol a chyson.

Gofynnir am wybodaeth ar gyfleusterau rheoli gwastraff / adfer adnoddau’r rhanbarth er mwyn monitro gweithredu’r CGRh – o ran y cyfleusterau arfaethedig yng nghynlluniau datblygiad awdurdodau lleol a’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael.

Prif rôl yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw casglu a chyflwyno’r holl wybodaeth sydd ar gael i alluogi monitro deilliannau gwastraff y rhanbarth a’i chyfleusterau rheoli gwastraff er mwyn asesu perfformiad y rhanbarth yn erbyn targedau’r strategaeth wastraff.

Dylai’r wybodaeth a’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn yr adroddiad fod yn sail i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau’r deilliannau gwastraff yn  ardal pob awdurdod lleol a’r rhanbarth gyfan o ganlyniad i hynny. Dylai fod hefyd yn gronfa wybodaeth i gynorthwyo’r diwydiant rheoli gwastraff i wneud penderfyniadau buddsoddi allweddol.

Mae i’r AMB y nodau canlynol:

  • Casglu ac asesu’r data sydd ar gael ynglŷn â’r holl ddeilliannau gwastraff yn y rhanbarth er mwyn monitro tueddiadau mewn deilliannau blaenorol ac, yn y pen draw, monitro perfformiad yn erbyn targedau ac amcanion y strategaeth gwastraff yn y CGRh;
  • Casglu ac asesu’r data sydd ar gael ynglŷn â thargedau adfer, hunangynhaliaeth a dewisiadau amgen i ddatblygu safleoedd tirlenwi;
  • Casglu ac asesu gwybodaeth am ddatblygu polisïau gwastraff mewn Cynlluniau Datblygu er mwyn monitro gweithredu gofynion y CGRh;
  • Casglu’r wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â lleoliad a galluoedd cyfleusterau rheoli gwastraff / adfer adnoddau sydd eisoes yn bodoli; a
  • Nodi unrhyw fylchau yn y data.

Mae pob un o’r tri AMB yn ymwneud â’r cyfnod sy’n gorffen 13 Mawrth.

Os ydych am lawrlwytho unrhyw un o’r ffeiliau isod, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i lawrlwytho am ddim.

Adroddiad Monitro Blynyddol (Ebrill 2005) – (Yn Saesneg) pdf

Adroddiad Monitro Blynyddol (Ebrill 2006) – (Yn Saesneg) pdf

Adroddiad Monitro Blynyddol (Ebrill 2007) – (Yn Saesneg) pdf