
Mae'r angen am genhedlaeth newydd o reoli gwastraff / cyfleusterau adfer adnoddau o ddiddordeb a phryder i bawb. Bydd rhoi'r Adolygiad 1af y CGRh ar waith yn effeithio'n sylweddol ar unigolion, cymunedau a busnesau am lawer o flynyddoedd i ddod ac felly roedd yn bwysig bod yr holl fuddion hynny yn cael cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch cynnwys y Cynllun.
Comisiynwyd 'Hyder Consulting (UK) Limited' ar y cyd gan dair rhanbarth yng Nghymru i gyflawni rhaglen gyhoeddusrwydd ac ymgynghori gynhwysfawr er mwyn mynegi'r materion rhanbarthol; i archwilio i farn rhanddeiliaid a'r cyhoedd ynghylch y dewisiadau amgen ar y lefel strategol hon; ac i ddiwallu gofynion statudol.
Cyhoeddwyd Adolygiad 1af y Drafft Ymgynghori (Medi 2007) - ynghyd ag amrywiaeth o ddogfennau cefndirol technegol - er mwyn ymgynghori arno ym mis Hydref 2007. Cafwyd cyfnod ymgynghori am 10 wythnos rhwng 15 Hydref 2007 a 24 Rhagfyr 2007.
Ynghyd â'r gweithgareddau ymgynghori rhanbarthol yn ystod y cyfnod ffurfiol cafwyd:
- Lansiad swyddogol a chynhadledd y wasg yn ystdo Cynhadledd Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru) yng Nghaerdydd - gan gynnwys araith gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai;
- Pedwar datganiad i'r wasg - cysylltwyd â 108 o gwmnïau'r wasg a chafwyd yr hanes fel prif stori newyddion Wales Today y BBC, cyfweliad ar BBC Radio Wales a chyfweliad ar Politics Show y BBC;
- Cafwyd cynhadledd arall i'r wasg mewn cyflesuter Treulio Anerobig;
- Argaeledd y 'Ddogfen Themâu' yn crynhoi prif themâu'r cynllun;
- Gwefan â dogfennau arolwg ac ymgynghori ar-lein i'w lawrlwytho;
- Arolwg post ar hap gyda 3,700 o aelwydydd yn y rhanbarth;
- Diwrnod diwydiant ar gyfer prif gynhyrchwyr gwastraff a'r diwydiant rheoli gwastraff;
- Diwrnod rhanddeiliaid strategol ar gyfer cynrychiolwyr cyrff sector cyhoeddus, preifat ac nid er elw sy'n bennaf yn y maes gwastraff, yr amgylchedd a chynllunio;
- Cyfres o dri chyfarfod grŵp ffocws gan wahodd nifer mawr o fudiadau i anfon cynrychiolwyr;
- Gofynnwyd i sefydliadau partner roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad ar eu gwefannau a thrwy gyfryngau eraill; a
- Chynnig cyfarfod grŵp cymunedol i bob Awdurdod Unedol o fewn eu haradloedd gyda grŵp o'u dewis - aeth Hyder gan roi cyflwyniad a derbyniodd adborth. Cynhaliwyd chwe chyfarfod.
Gyda'i gilydd, y gweithgareddau hyn oedd yr ymgynghoriad a'r drafodaeth fwyaf yn y rhanbarth hyd yma ynghylch sut i ddethol a lleoli rhwydwaith cyfleusterau rheoli gwastraff yn y dyfodol.
Os hoffech lawrlwytho unrhyw rai o'r ffeiliau ar y dudalen hon, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i lawrlwytho am ddim.
Dogfen Themâu Ymgynghori de-orllewin Cymru (Hydref'07) (Yn Saesneg)
Yr Adroddiad Ymgynghori a'r Adendwm i'r Adroddiad Ymgynghori
Roedd yr Adroddiad Ymgynghori a gynhyrchwyd gan Hyder Consulting yn cynnwys argymhellion a strwythurwyd yn unol â 5 thema allweddol y 'Ddogfen Themâu':
- Thema 1: Adolygiad 1af y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol;
- Thema 2: Yr Angen am Gyfleusterau Gwastraff;
- Thema 3: Opsiynau Technoleg;
- Thema 4: Y Broses Arfarnu; a
- Thema 5: Y Goblygiadau ar gyfer Cynllunio.
Adroddiad Ymgynghori Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Chwefror ’08) (Yn Saesneg)
Adroddiad Ymgynghori Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Crynodeb Gweithredol) (Chwefror ’08) (Yn Saesneg)
Roedd yr Adendwm dilynol i'r Adroddiad Ymgynghori a gynhyrchwyd gan y GGRh yn cynnwys ymatebion y cytunwyd arnynt i adborth yr ymgynghori - gan gynnwys pob un o argymhellion yr Adroddiad Ymgynghori - ynghyd â'r newidiadau i'w gwneud i'r cynllun wedi ystyried yr adborth a'r ymatebion.
Adendwm Adroddiad Ymgynghori Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Mawrth ’08) (Yn Saesneg) |