Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
South Wales Home
Introduction
Map of Region
Contact
Terms of Reference
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan - November 2003
Regional Waste Plan - November 2003
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government


Mae’r ffaith eich bod yn pori ar y Wefan hon yn golygu bod diddordeb gennych mewn materion Gwastraff. Mae hynny’n wych, achos rydym am wybod eich barn, pwy bynnag ydych, boed hynny’n un o drigolion Rhanbarth De-orllewin Cymru, yn gynrychiolydd grwp amgylcheddol, yn gynrychiolydd unrhyw grwp cymunedol, yn gynrychiolydd y diwydiant gwastraff, yn fusnes yn y diwydiant gwastraff, neu’n wir yn unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion Gwastraff.

Mae’r rhestr o opsiynau ar ochr chwith y dudalen yn rhoi gwybodaeth am ein cynnydd yn y broses o adolygu’r Cynllun Gwastraff i’r Rhanbarth. Fe’ch cynghorir i ddarllen y wybodaeth yn y “Cynnwys” a’r “Cyflwyniad” yn gyntaf, gan y bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn well ac ystyr y blychau gwybodaeth eraill.

Ond y wybodaeth bwysicaf oll yw’r “Ymgynghori” a fydd yn mynd â chi at y ffurflen "Adborth". Llenwch y ffurflen ar y sgrîn a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn am y Cynllun Gwastraff, yna gwasgwch y botwm i anfon a bydd eich ymateb yn mynd yn uniongyrchol at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yr Awdurdod cydlynu, yn: "wasteplan@neath-porttalbot.gov.uk".

Bydd hynny’n golygu bod eich ymateb yn dod yn un cyhoeddus ac yn ein helpu i lunio’r Cynllun Gwastraff ar gyfer Rhanbarth De-orllewin Cymru.

Diolch am eich diddordeb.

Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (yr awdurdod cydlynu ar gyfer cynhyrchu Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru).