
Mae’r wefan hon yn benodol ar gyfer Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y broses o adolygu’r cynllun ac yn y pen draw fanylion Cynllun Gwastraff Rhanbarthol terfynol De-orllewin Cymru.
Mae gwastraff wedi dod yn fater pwysig dros ben ac mae’r amcanion a’r targedau penodol a nodir mewn Gorchmynion Ewropeaidd megis y Gorchymyn Fframwaith ar Wastraff a’r Gorchymyn Tirlenwi yn galw am newidiadau pellgyrhaeddol i’n ffordd o drin gwastraff. I gyflwyno’r newidiadau sy’n ofynnol yng Nghymru er mwyn cydymffurfio ag amcanion a thargedau Deddfwriaeth Ewrop, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu Wise about Waste: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru a Pholisi Cynllunio Cymru Nodyn Cyngor Technegol : 21 Gwastraff (NCT 21). Mae polisi a chanllawiau cenedlaethol yn cydnabod yr hierarchaeth wastraff, lle rhoddir prif bwyslais ar hyrwyddo lleihau, ail-ddefnyddio ac adennill gwastraff a symud oddi wrth waredu gwastraff drwy dirlenwi. Mae egwyddor agosrwydd hefyd yn amcan allweddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn nodi y dylid trin neu waredu gwastraff mor agos â phosib at ei ffynhonnell. Mae Wise about Waste yn nodi targedau penodol ar gyfer Cymru ynghylch y dulliau o reoli gwastraff a bwriad NCT 21 yw hwyluso cyflwyno fframwaith cynllunio defnydd tir cynhwysfawr, integredig a chynaliadwy ar gyfer rheoli gwastraff yng Nghymru drwy gyflwyno cynlluniau gwastraff rhanbarthol.
Mae cynllunio gwastraff yn fater strategol ac mae NCT 21 wedi cyflwyno 3 ardal gwastraff rhanbarthol ar gyfer Cymru sy’n galw am drefniadau gwirfoddol ar y cyd rhwng Awdurdodau yn ogystal ag awdurdod cydlynu ar gyfer pob rhanbarth. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod cydlynu ar gyfer De-orllewin Cymru ac mae’r awdurdodau o fewn y rhanbarth yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog. Mae swyddogion o bob un o’r awdurdodau yn Ne-orllewin Cymru ynghyd â chroestoriad o gynrychiolwyr o sefydliadau eraill yn ffurfio’r Grwp Technegol Rhanbarthol (GTRh) sy’n rhoi mewnbwn uniongyrchol i lunio’r cynllun. Mae’r GTRh yn adrodd yn ôl i Fforwm Aelodau Rhanbarthol (FfARh) sy’n cynnwys Cynghorwyr a enwebwyd o bob awdurdod, ac a sefydlwyd i ddarparu fforwm democrataidd ar gyfer cytuno ar wahanol gamau’r cynllun ac yn y pen draw y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w gymeradwyo. Mae manylion llawn aelodau’r holl grwpiau hyn ar gael o glicio ar Cysylltiadau. Ymhellach, mae rolau a chyfrifoldebau’r cyfranwyr allweddol i’r cynllun gwastraff rhanbarthol i’w gweld os cliciwch ar Cylch Gorchwyl.
Mae’r wefan hon yn cynnwys manylion agendâu a chofnodion cyfarfodydd GTRh a FfARh a bydd yn darparu manylion dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol pan fyddant wedi’u cadarnhau. Darperir hefyd yr adroddiadau sy’n ffurfio camau cychwynnol y broses, yn ogystal â phroses y cynllun gwastraff rhanbarthol, a gellir lawrlwytho’r rhain yn ogystal â’r cynllun gwastraff rhanbarthol ei hun. Darperir ffurflen adborth hefyd os cliciwch ar Ymgynghori, a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau cyffredinol ynghylch cynnwys y wefan hon, yn ogystal â sylwadau penodol ar y adolygiad o’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol.
Os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch ynghylch Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru gallwch gysylltu â’r canlynol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yr awdurdod cydlynu:
Geoff White – Pennaeth Cynllunio
Ceri Morris – Swyddog Cynllun Gwastraff
Gellir cysylltu â’r ddau drwy e-bost yn wasteplan@neath-porttalbot.gov.uk
|