Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
South Wales Home
Introduction
Map of Region
Contact
Terms of Reference
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan - November 2003
Regional Waste Plan - November 2003
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government


MAE’R MEMORANDWM DEALLTWRIAETH HWN YN YMWNEUD Â FFORWM CYNLLUN GWASTRAFF RHANBARTHOL DE ORLLEWIN CYMRU

Y PARTÏON

1. Y Partïon yw:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Sir Penfro
  • Dinas a Sir Abertawe
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

NOD

2. Nod y Fforwm yw paratoi, cymeradwyo a diweddaru Cynllun Gwastraff Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru, ardal fel y’i diffinnir gan ffiniau’r 6 sir.

AMCANION

3. Amcanion y Fforwm yw

(i) asesu gofynion cyfleusterau gwastraff yn Ardal De Orllewin Cymru yn y dyfodol yn seiliedig ar yr egwyddor agosrwydd a BPEO.
(ii) cytuno ar rannu cyfleusterau rhwng ardaloedd Awdurdodau Lleol er mwyn delio â gwastraff.
(iii) sicrhau o leiaf bod targedau rheoli gwastraff a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn cael eu cyflawni.
(iv) sicrhau bod ymgynghori digonol yn digwydd mewn perthynas â’r Cynllun.

4. Bydd y Partïon yn rheoleiddio gweithrediadau’r Fforwm yn unol ag Atodiad 1 a fydd yn ffurfio rhan o’r Memorandwm hwn.

5. Ni fydd gan farn neu benderfyniadau’r Fforwm na’r Grwp Technegol ar unrhyw fater penodol, fel y darparwyd ar eu cyfer ym Mharagraff 5 Atodiad 1, unrhyw awdurdod i rwymo unrhyw Barti unigol wrth arfer dyletswyddau neu bwerau statudol y Parti hwnnw neu fel arall.

DIWYGIADAU

6. Bydd y trefniadau yn y Memorandwm hwn mewn grym o’r dyddiad llofnodi cychwynnol gan y rhan fwyaf o’r partïon fel a nodwyd ym Mharagraff 1.
7. Bydd rhyddid i unrhyw Barti unigol dynnu’n ôl o’r trefniadau hyn gan roi dim llai na thri mis o rybudd o’i fwriad i wneud hynny. Rhaid rhoi’r cyfryw rybudd yn ysgrifenedig a’i gyfeirio at y Cydlynydd (fel a ddiffiniwyd yn Atodiad 1) trwy’r post dosbarth cyntaf a gellir cymryd yn ganiataol y bydd yn cael ei gyflwyno 48 awr ar ôl ei bostio (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc).

STATWS

9. Contractwr annibynnol yw pob un o’r Partïon i hyn ac ni ystyrir bod unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yn y Memorandwm hwn nac unrhyw weithred a wneir gan y Partïon i’r Memorandwm hwn yn awgrymu bod unrhyw berthynas gyfreithiol rhwng Partïon y bartneriaeth neu’r pennaeth/asiant na chwaith bod y Partïon trwy hyn yn ymwneud â menter ar y cyd, cymdeithas neu fenter gydweithredol arall ac yn unol â hynny ni fydd gan unrhyw un o’r Partïon yr hawl na’r awdurdod i weithredu ar ran y lleill nac i rwymo un o’r Partïon eraill â chontract neu fel arall, oni bai y rhoddir caniatâd arbennig iddynt i wneud hynny yn ôl amodau’r Memorandwm hwn.

10. Gellir sicrhau bod copi o’r Memorandwm hwn ar gael i’r cyhoedd ar gais.

11. Mae pob Parti sy’n ymuno â’r Memorandwm hwn yn cadarnhau bod ganddo’r grym a’r awdurdod cyfreithiol i wneud hynny a chyflawni ei ddyletswyddau trwy hyn.

LLOFNOD

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Sir Penfro
Dinas a Sir Abertawe
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Parc Cenedlaethol Sir Benfro


ATODIAD 1

CYFANSODDIAD

1. Bydd y Fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr a enwebwyd gan y Partïon ar sail y canlynol:

2 gynrychiolydd o bob Cyngor neu Gyngor Bwrdeistref Sirol;
1 cynrychiolydd o bob Awdurdod Parc Cenedlaethol.

2. Bydd pob Parti’n dewis ei gynrychiolwyr unigol ei hun, ond fel arfer bydd y rhain ar lefel Cabinet.

3. Dan amgylchiadau eithriadol gall unrhyw Barti enwebu dirprwy neu ddirprwyon ar gyfer eu cynrychiolwyr.

4. Yn ogystal â’r cynrychiolwyr a nodwyd uchod mae gan y Partïon yr hawl i gael arsylwr yn bresennol yng nghyfarfodydd y Fforwm.

5. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a chyrff priodol eraill yn cael gwahoddiad i anfon cynrychiolwyr yn achlysurol yn ôl yr eitem a fydd yn cael ei thrafod.

6. Bydd pob Parti’n hysbysu’r Cydlynydd (fel a ddiffinnir isod) am enw a chyfeiriad pob un o’u cynrychiolwyr y bydd yr holl ddogfennau neu’r ohebiaeth sy’n ymwneud â busnes y Fforwm yn cael eu hanfon atynt ac yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o unrhyw newidiadau o ran enw a chyfeiriad y cynrychiolwyr hyn.

CYDLYNYDD

7. Bydd y Partïon yn nodi person i ddelio â’r holl faterion gweinyddol sy’n ymwneud â’r Fforwm.

CYFARFODYDD Y FFORWM

8. Bydd y Fforwm yn cwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn.

9. Gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol naill ai:

i) yn dilyn penderfyniad y Cadeirydd, neu

ii) ar gais holl gynrychiolwyr dau o’r Partïon (fel a ddiffiniwyd ym Mharagraff 1 uchod.

10. Bydd cyfarfodydd y Fforwm yn breifat.

11. Ar y cychwyn bydd y Fforwm yn ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd ymhlith y cynrychiolwyr a enwebwyd o’r Partïon. Yn dilyn hynny bydd y swyddi hyn yn cael eu hethol bob 2 flynedd yn yr un modd.

12. Bydd cyfarfodydd y Fforwm a’r holl faterion gweinyddol sy’n ymwneud â phob cyfarfod o’r fath (gan gynnwys cynhyrchu papurau a chofnodion) yn cael eu trefnu gan y Cydlynydd ar ôl ymgynghori â’r Cadeirydd ac eithrio mewn achos brys neu oni bai y cytunir fel arall gan holl aelodau’r Fforwm mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod neu gyfarfodydd.

13. Bydd y Cydlynydd yn ceisio rhoi o leiaf 7 diwrnod clir o rybudd ysgrifenedig i’r cynrychiolwyr am ddyddiad, amser a lleoliad unrhyw gyfarfod o’r Fforwm a’r busnes sydd i’w wneud yno.

14. Fel arfer bydd pob cyfarfod o’r Fforwm yn cychwyn yn ystod oriau gwaith arferol ac yn digwydd o fewn De Orllewin Cymru neu leoliad arall y cytunwyd arno gyda’r Partïon.

15. Yn amodol ar Baragraff 3 uchod bydd y Partïon yn darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar y Cydlynydd er mwyn cyflwyno papurau a baratowyd yn gywir ac yn broffesiynol i bob un o’r cynrychiolwyr o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod y byddant yn cael eu hystyried ynddo.

16. Bydd y Cydlynydd yn paratoi cofnodion y cyfarfod ac yn eu hanfon at bob cynrychiolydd cyn gynted ag sy’n bosib (ac o fewn deng niwrnod gwaith mewn unrhyw achos) ar ôl cynnal y cyfarfod perthnasol.

17. Bydd hysbysiadau neu ohebiaeth arall i’r cynrychiolwyr unigol yn cael eu hanfon trwy e-bost lle bynnag y bo’n bosib i gyfeiriad e-bost y cynrychiolwyr fel y rhoddwyd gwybod i’r Cydlynydd, ac fel arall trwy bost dosbarth cyntaf a gyfeiriwyd at gyfeiriad y derbynnydd fel y rhoddwyd gwybod i’r Cydlynydd a than Baragraff 1 yr Atodiad, a gellid cymryd yn ganiataol y byddant wedi’u cyflwyno o’r adeg yr anfonwyd yr e-bost neu fel arall 48 awr ar ôl cael eu postio (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc).

18. Bwriad y Partïon yw y bydd holl benderfyniadau’r Fforwm yn cael eu gwneud trwy gonsensws, ond pan fydd angen pleidleisio, bydd pob cynrychiolydd yn cael un bleidlais.


CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS

19. Bydd unrhyw ddatganiad i’r wasg sy’n ymwneud â gweithrediadau’r Fforwm yn cael ei wneud gyda chaniatâd y Partïon. Gall y Cadeirydd ymateb i’r wasg ar ôl ymgynghori’n briodol.

20. Bydd copïau o unrhyw ddatganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd yn enw’r Fforwm yn cael eu hanfon at bob cynrychiolydd ymlaen llaw lle bynnag y bo’n bosib.

GRWP TECHNEGOL

21. Bydd y Grwp Technegol yn darparu asesiad gwastraff rhanbarthol i’r Fforwm.

22. Oni bai fod y Fforwm wedi nodi’n wahanol, bydd y Grwp Technegol yn penodi Cadeirydd ac Ysgrifennydd o blith y Partïon (yr Awdurdod Blaen) a fydd yn gyfrifol ar y cyd am ymgynnull cyfarfodydd, dosbarthu papurau, paratoi agendâu a chofnodion ac unrhyw dasg weinyddol arall.

23. Bydd rôl y Cydlynydd mewn perthynas â’r Gweithgorau’n gyfyngedig i sicrhau bod pawb yn deall y cylch gorchwyl a bod y terfynau amser yn cael eu diffinio.

24. Mae’r Partïon yn ymgymryd i neilltuo’r lefel briodol o adnoddau dynol er mwyn galluogi’r Gweithgorau i gyflawni’r cylch gorchwyl a roddwyd iddynt gan y Fforwm gan roi ystyriaeth haeddiannol i unrhyw gefnogaeth a roddwyd i’r Awdurdod Blaen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

25. Bydd gan y Grwpiau Technegol y grym i gyfethol cynrychiolwyr o unrhyw sefydliad y maent yn ystyried ei fod yn berthnasol i’w cylch gorchwyl.

BACK