
Cytunwyd ar Gynllun Gwastraff Rhanbarthol cyntaf De-orllewin Cymru (CGRh) gan Fforwm yr Aelodau Rhanbarthol ddydd Gwener, 28 Tachwedd 2003 ac argymhellwyd i bob un o’r wyth awdurdod cynllunio lleol ar draws y rhanbarth ei gymeradwyo.
Cymeradwywyd y CGRh gan bob un o’r wyth awdurdod cynllunio lleol a derbyniodd Fforwm Aelodau’r Cynllun mewn cyfarfod ddydd Gwener, 27 Chwefror 2004. Yna cyflwynwyd y Cynllun gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Os ydych am lawrlwytho unrhyw un o’r ffeiliau a grybwyllwyd isod, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i gael lawrlwytho am ddim.
Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Tachwedd 2003) - pdf
Lluniwyd nifer o adroddiadau cefndir i gyfeirio gwaith paratoi’r CGRh:
Adroddiad Cam 1: Adroddiad Asesu Gwastraff Strategol (Tachwedd 2002)
Lluniwyd yr adroddiad hwn er mwyn crynhoi ystadegau rheoli gwastraff allweddol y rhanbarth a, lle bo modd, cafodd y data eu torri i lawr hyd at lefel awdurdodau lleol.
Cyflwynwyd data deilliannau ar gyfer gwastraff trefol, diwydiannol, masnachol, adeiladu a dymchwel, amaethyddol ac arbennig. Hefyd rhoddwyd y trefniadau rheoli gwastraff presennol ac arfaethedig, gan gynnwys nifer a math y cyfleusterau rheoli gwastraff. Yn ogystal rhagfynegwyd deilliannau gwastraff hyd at y flwyddyn 2021 ar gyfer pob un o’r prif lifau gwastraff.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Asesu Strategol : Cam 1 gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2002.
Adroddiad Asesu Gwastraff Strategol : Cam 1 (Tachwedd 2002) - (Yn Saesneg) (pdf)
Adroddiad Cam 2 (a): Adroddiad Datblygu Dewisiadau (Ionawr 2003)
Nododd yr adroddiad hwn yr amrywiaeth o ddewisiadau rheoli gwastraff ar gyfer y rhanbarth i gael eu hasesu.
Cyflwynwyd saith dewis sy’n cyflawni lefelau gwahanol o ailgylchu, compostio, triniaeth fiolegol fecanyddol (MBT), triniaeth thermol a thirlenwi. Cyflwynwyd gofynion gallu rheoli gwastraff ar gyfer pob llif gwastraff ar lefel awdurdod lleol.
Adroddiad Datblygu Dewisiadau : Cam 2(a) (Ionawr 2003) – (Yn Saesneg) (pdf)
Adroddiad Cam 2(b): Adroddiad Arfarnu Cynaladwyedd (Mai 2003)
Asesodd yr adroddiad hwn bob un o’r dewisiadau gan ddefnyddio methodoleg werthuso gadarn y gellir ei harchwilio. Cynhaliwyd asesiad o’r dewisiadau yn erbyn nifer o ddangosyddion a nodwyd y dewis a ddymunir fwyaf. Y dull rheoli gwastraff mwyaf poblogaidd oedd yn sail Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru.
Adroddiad Arfarnu Cynaladwyedd: Cam 2(b) (Mai 2003) (Yn Saesneg) (pdf) |