
Cytunwyd ar Adolygiad 1af CGRh De-orllewin Cymru (Drafft a Argymhellir) gan y Fforwm Aelodau Rhanbarthol ddydd Iau 27 Mawrth 2008 ac felly fe'i hargymhellwyd i bob un o'r wyth Awdurdod Cynllunio Lleol ar draws y rhanbarth er mwyn derbyn eu cymeradwyaeth.
Mae Adolygiad 1af y CGRh wedi ei gymeradwyo gan bob un o’r Awdurdodau Lleol ac wedi ei anfon i Lywodraeth y Cynulliad. O ganlyniad i hyn mae’r Adolygiad yn dod yn fframwaith strategol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol ac yn ystyriaeth bwysig trwy’r broses o rheoli datblygiadau.
Os hoffech lawrlwytho unrhyw rai o'r ffeiliau ar y dudalen hon, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0 arnoch. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i lawrlwytho am ddim.
Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Awst’08)
Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-orllewin Cymru - Crynodeb Annhechnegol (Awst’08)
Atodiad J: Ardaloedd y Map Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Dan Do yn ne-orllewin Cymru
Atodiad J: Ardaloedd y Map Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Awyr Agored yn ne-orllewin Cymru
Adolygiad 1af y CGRh yw canlyniad rhaglen dair blynedd uchelgeisiol o weithio mewn partneriaeth. Mae'r wyth awdurdod cynllunio lleol yn ne-orllewin Cymru wedi gweithio ar y cyd i ddatblygu a llywio'r prosiect, gan elwa drwy hynny ar gydweithio'n agos ag amrediad eang o fudiadau rhanddeiliaid ynghyd â'u mewnbwn gwerthfawr - bydd Adolygiad 1af y CGRh yn cynorthwyo'r rhanbarth i ddatblygu rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff drwy ddarparu gwybodaeth strategol ar y mathau o gyfleusterau gwastraff y mae eu hangen a'r mathau o leoliadau sy'n debygol o fod yn dderbyniol.
Mae Adolygiad 1af y CGRh yn ymwneud â'r prif ffrydiau gwastraff 'a reolir' a ganlyn:
- Gwastraff Trefol Solet (MSW);
- Gwastraff Diwydiannol;
- Gwastraff Masnachol;
- Gwastraff Adeiladu a Dymchwel (C&D);
- Gwastraff Peryglus; a
- Gwastraff Amaethyddol (y gyfran sy'n galw am reoli allanol yn unig).
Mae gan Adolygiad 1af y CGRh ddwy brif elfen:
- Strategaeth Dechnoleg y CGRh - sy'n rhoi gwybodaeth strategol am y mathau o gyfleusterau rheoli gwastraff / adfer adnoddau y mae eu hangen yn ne-orllewin Cymru; a
- Strategaeth Ofodol y CGRh - sy'n rhoi gwybodaeth strategol am y mathau o leoliadau sy'n debygol o fod yn dderbyniol.
Datblygwyd Strategaeth Dechnoleg y CGRH a Strategaeth Ofodol y CGRh drwy wahanol brosesau; maent yn ymdrin â materion gwahanol ac wedi cael eu cyflwyno ar wahân. Nid yw Adolygiad 1af y CGRh yn dod â'r ddwy elfen ynghyd er mwyn nodi pa dechnolegau y dylid eu lleoli ar ba safle nac ym mha ardal chwilio. Mae'r broses o gyfuno'r ddwy elfen yn ymarfer llunio polisi y gellir ond ei chyflawni ar lefel leol drwy broses baratoi'r CDLl.
Fel gyda'r CGRh cyntaf, mae Adolygiad 1af y CGRh wedi bod yn destun proses ymgynghori gynhwysfawr gyda'r cyhoedd a'r rhanddeiliaid. Cyhoeddwyd Adolygiad 1af y Drafft Ymgynghori (Medi 2007) - ynghyd ag amrywiaeth o ddogfennau cefndirol technegol - er mwyn ymgynghori arno ym mis Hydref 2007. Cafwyd cyfnod ymgynghori am 10 wythnos rhwng 15 Hydref 2007 a 24 Rhagfyr 2007.
Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad - cliciwch ar y ddolen ar y ddewislen ar yr ochr chwith.
Asesiadau Technegol sy'n cyfeirio Adolygiad 1af y CGRh
Roedd nifer o asesiadau technegol manwl yn cyfeirio Adolygiad 1af y CGRh:
1. Asesiad Cylch Bywyd (LCA) ac Arfarniad Cynaladwyedd (AC) o'r Dewisiadau Rheoli Gwastraff Strategol
Penodwyd 'Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru' gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gwblhau'r LCA a'r AC ar ran y tair rhanbarth yng Nghymru.
Defnyddir yr LCA i asesu agweddau amgylcheddol gweithgareddau rheoli gwastraff yn ystod eu bywydau cyfan. Fe'i diffiniwyd fel "nodi systematig yr holl fanteision ac anfanteision amgylcheddol sy'n ganlyniad, uniongyrchol ac anuniongyrchol cynnyrch neu broses drwy gydol ei fywyd, o echdynnu deunydd craidd, i'w dychwelyd yn y pendraw i'r amgylchedd". Mae'r arweiniad ar AC yn argymell defnyddio'r fath asesu meintiol ar gyfer arfarnu effaith yr opsiynau ar ddefnydd o adnoddau a hepgorion.
AC yw'r broses a'r dull asesu sydd wrth graidd datblygu Strategaeth Gwastraff Rhanbarthol. Mae'n fethodoleg ar gyfer arfarnu opsiynau rheoli gwastraff strategol sy'n ystyried materion amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol a materion rhoi ar waith drwy ddefnyddio dangosyddion sy'n cael eu pwysoli gan farcwyr penderfyniadau. Wrth ystyried y fath amrediad eang o faterion, a thrwy ddefnyddio dangosyddion wedi'u pwysoli, mae methodoleg yr AC yn darparu ymagwedd gadarn a chynhwysfawr wrth nodi 'opsiwn a ffafrir' a natur agored wrth wneud penderfyniadau.
LCA de-orllewin Cymru / Adroddiad AC (Rhan 1 - Prif Adroddiad) (Yn Saesneg)
LCA de-orllewin Cymru / Adroddiad AC (Rhan 2 - Tablau a Ffigurau) (Yn Saesneg)
LCA de-orllewin Cymru / Adroddiad AC (Rhan 3 - Atodiadau) (Yn Saesneg)
LCA de-orllewin Cymru / Adroddiad AC (Crynodeb) (Yn Saesneg)
2. Cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar yr Opsiynau Rheoli Gwastraff Strategol
Comisiynodd y tair rhanbarth yng Nghymru 'Hyder Consulting (UK) Limited' i gyflawni AAS ar yr opsiynau Rheoli Gwastraff Strategol.
Amcan Cyfarwyddeb AAS yw darparu ar gyfer amddiffyn yr amgylchedd ar lefel uchel ac i gyfrannu at integreiddio ystyriaethau amgylcheddol wrth baratoi a mabwysiadu cynlluniau a rhaglenni gyda'r bwriad o hyrwyddo datblygu cynaliadwy, drwy sicrhau bod asesiad amgylcheddol yn cael ei gyflawni ar gynlluniau a rhaglenni penodol sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd.
Adroddiad Amgylcheddol Opsiynau AAS de-orllewin Cymru (Cyfrol 1 - Prif Adroddiad) (Medi'07) (Yn Saesneg)
Adroddiad Amgylcheddol Opsiynau AAS de-orllewin Cymru (Cyfrol 2 - Tablau Asesu) (Medi’07) (Yn Saesneg)
Adroddiad Amgylcheddol Opsiynau AAS de-orllewin Cymru (Crynodeb Annhechnegol) (Medi'07) (Yn Saesneg)
3. Asesiad Effaith ar Iechyd (AEI) Strategol
Comisiynodd y tair rhanbarth yng Nghymru 'Peter Brett Associates' i gyflawni AEI Strategol.
Mae AEI yn gyfuniad o weithdrefnau, dulliau ac offer a ddefnyddir i farnu polisi, rhaglen neu brosiect o ran eu heffeithiau posib ar iechyd y boblogaeth, a lledaeniad yr effeithiau hynny o fewn y boblogaeth.
AEI Strategol (Prif Adroddiad) (Mawrth'08) (Yn Saesneg)
AEI Strategol (Crynodeb Annhechnegol) (Mawrth'08) (Yn Saesneg)
AEI Strategol (Atodiad o Dablau Dadansoddi Manwl) (Mawrth'08) (Yn Saesneg)
4. Nodi Meysydd Chwilio am Gyfleusterau Rheoli Gwastraff Rhanbarthol ar draws Cymru
Comisiynodd y tair rhanbarth yng Nghymru 'RPS Planning, Transport and Environment' i gyflawni astudiaeth i nodi ardaloedd chwilio ar gyfer cyfleusterau gwastraff rhanbarthol ar draws y dywysogaeth.
Ymagwedd yr astudiaeth at nodi ardaloedd chwilio o'r fath oedd cyflawni AC, gan gynnwys gofynion yr AAC - roedd yr astudiaeth yn cynnwys nodi amcanion a meini prawf cynaladwyedd a gafodd eu pwysoli a'u cymhwyso i ymarfer mapio gan ddefnyddio GIS i gynhyrchu'r ardaloedd chwilio.
Adroddiad Amgylcheddol AAC/ AC - Nodi Ardaloedd Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Rhanbarthol ledled Cymru (Prif Adroddiad) (Gorffennaf'07) (Yn Saesneg)
Adroddiad ar Wastraff Peryglus – Adendwm i'r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol cyntaf
Ar ddechrau proses Adolygiad 1af y CGRh roedd gofyniad i baratoi a chyhoeddi meini prawf neu bolisïau lleoli fel adendwm i'r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol cyntaf a fydd yn arwain cynigion y dyfodol ar gyfer trin gwastraff peryglus a chyfleusterau gwaredu.
Roedd yr Adroddiad ar Wastraff Peryglus (Medi 2005), yn destun ymgynghori gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid a chytunodd y Fforwm Aelodau Rhanbarthol arno ddydd Gwener 9 Medi 2005. O ganlyniad, cymeradwywyd yr Adroddiad gan bob un o'r wyth awdurdod cynllunio ac fe'i derbyniwyd yn ffurfiol gan y Fforwm Aelodau mewn cyfarfod ddydd Mercher 12 Ebrill 2006. Yna, cyflwynwyd yr Adroddiad yn ffurfiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae elfennau craidd yr adroddiad hwnnw wedi cael eu cynnwys yn Adolygiad 1af y CGRh.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr elfen hon o Adolygiad 1af y CGRh neu os ydych am lawrlwytho'r Adroddiad ar Wastraff Peryglus, cliciwch ar y ddolen isod.
Adroddiad ar Wastraff Peryglus
|