Welsh Assembly Government
Wales Regional Waste Plans
Welsh Assembly Government
South West Regional Waste Plan
South West Region
Main Home Page
South Wales Home
Introduction
Map of Region
Contact
Terms of Reference
Agendas & Minutes
Regional Waste Plan - November 2003
Regional Waste Plan - November 2003
Annual Monitoring Reports
Consultation
Useful Links
Welsh Assembly Government


Elfen bwysig gyntaf yr adolygiad oedd ymgymryd ag adolygiad ar unwaith o ran cynllunio gwastraff peryglus mewn ymgynghoriad â’r Grwpiau Gwastraff Rhanbarthol eraill, er mwyn paratoi a chyhoeddi’r meini prawf neu bolisïau lleoli fel atodiad i’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a fydd yn arwain cynigion y dyfodol ynglyn â chyfleusterau trin a gwaredu gwastraff peryglus.

Bu’r Adroddiad ar Wastraff Peryglus (Medi 2005), yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd a buddiolwyr allweddol ac fe’i cadarnhawyd gan y Fforwm Aelodau Rhanbarthol ddydd Gwener 9 Medi. Cyn cyhoeddi’r Adroddiad yn ffurfiol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n rhaid i bob un o’r awdurdodau cyfansoddol yn Ne-orllewin Cymru ei gadarnhau. Mae’r broses hon eisoes wedi cychwyn.

Mae’r Adroddiad yn mynd i’r afael ag anghenion pedwar grwp o bobl:

  • Y Comisiwn Ewropeaidd – o ran cyflawni rhwymedigaeth y DU dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus i sicrhau bod rhwydwaith digonol ac integredig o gyfleusterau gwastraff drwy sefydlu meini prawf lleoli ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff;
  • Datblygwyr o’r diwydiant rheoli gwastraff – o ran darparu arweiniad clir ar bolisïau a gweithdrefnau’r system ar gyfer sicrhau caniatâd cynllunio;
  • Aelodau a Swyddogion Awdurdodau Lleol – o ran darparu asesiad cywir a chlir o’r materion cynllunio sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o gyfleusterau sy’n gallu trin deunyddiau a ddiffinnir fel gwastraff peryglus; a’r
  • Gymuned Leol– o ran darparu mesur o hyder ynglyn â sut a ble bydd gwastraff peryglus yn cael ei drin.

Mae’r Adroddiad yn y lle cyntaf yn trafod y cyd-destun ehangach drwy adolygu’r newidiadau deddfwriaethol a gafwyd yn ddiweddar a chyflwyno a dadansoddi’r data cyfredol ar lefelau a chyfleusterau gwastraff peryglus. Yna mae’r Adroddiad yn mynd i’r afael ag anghenion y pedwar grwp a nodwyd drwy:

  • ymchwilio i’r ystyriaethau cynllunio defnydd tir ar gyfer ystod o gyfleusterau sy’n gallu trin deunyddiau a ddiffinnir fel gwastraff peryglus;
  • ymchwilio i reolyddion presennol y system cynllunio defnydd tir a’r goblygiadau; a thrwy
  • drafod pob math o gyfleuster gwastraff peryglus yn ei dro, unrhyw newid o ran amgylchiadau er cyhoeddi’r CGRh a nodi’r meini prawf lleoli priodol ar gyfer pob un o’r mathau o gyfleusterau.

Mae’r rhan olaf o’r Adroddiad yn nodi’r meini prawf lleoli sy’n gyffredin i bob math o gyfleuster gwastraff.

Os hoffech lawrlwytho’r ffeil ganlynol, bydd angen Acrobat Reader fersiwn 6.0. Cliciwch ar ddelwedd Acrobat Reader i lawrlwytho am ddim.

Adroddiad ar Wastraff Peryglus (Medi 2005) (Yn Saesneg) (pdf)

BACK